Ymateb y Llywodraeth: Gorchymyn Cyflogau Amaethyddol (Cymru) 2024

 

Mae’r Gorchymyn Cyflogau Amaethyddol wedi ei wneud yn unol ag adran 4 o Ddeddf Sector Amaethyddol (Cymru) 2014. Er mai Gweinidogion Cymru sy’n gwneud y Gorchymyn, mae wedi ei ddrafftio a’i lunio gan Banel Cynghori ar Amaethyddiaeth Cymru (“y Panel”). Gall Gweinidogion Cymru naill ai gymeradwyo a gwneud y Gorchymyn fel y’i cyflwynwyd iddynt gan y Panel neu gallant gyfeirio’r Gorchymyn yn ôl at y Panel i’w ystyried ymhellach a’i ailgyflwyno .

 

 

Pwyntiau Craffu Technegol 1, 2, 2a, 3, 4, 5, 5b, 6, 8, 9, 12, 14, 15, 16, 17:  Rydym wedi rhoi gwybod i’r Panel am eich sylwadau, a byddant yn eu hystyried ar gyfer Gorchymyn 2025. Nid ydym yn ystyried bod y drafftio hwn yn ddiffygiol nac yn effeithio’n andwyol ar ystyr ac effeithiolrwydd y Gorchymyn a byddem yn nodi bod y geiriad yn adlewyrchu geiriad Gorchymyn 2023.

 

 

Pwynt Craffu Technegol 2b:                   Nodwn eich sylwadau a byddwn yn eu hystyried ar gyfer Gorchymyn 2025. Nid ydym yn ystyried bod y drafftio hwn yn ddiffygiol nac yn effeithio’n andwyol ar ystyr nac effeithiolrwydd y Gorchymyn.

 

 

Pwynt Craffu Technegol 5a:                   Rydym wedi rhoi gwybod i’r Panel am eich sylwadau, a byddant yn eu hystyried ar gyfer Gorchymyn 2025. Nid ydym yn ystyried bod y drafftio hwn yn ddiffygiol nac yn effeithio’n andwyol ar ystyr ac effeithiolrwydd y Gorchymyn.

 

 

Pwynt Craffu Technegol 5c:                   Nodwn eich sylwadau a byddwn yn eu hystyried ar gyfer Gorchymyn 2025. Nid ydym yn ystyried bod hyn yn effeithio’n andwyol ar ystyr ac effeithiolrwydd y Gorchymyn.

 

 

Pwynt Craffu Technegol 7:                      Rydym yn fodlon bod y geiriad a’r dyddiadau yn gywir ac fel y’u bwriadwyd ac rydym wedi cadarnhau hyn â’r Panel. Mae’r cymal diogelu tâl yn ymwneud yn benodol â newidiadau a wnaed yn 2022 ac yn cynnig diogelwch parhaus i’r rhai a allai fel arall fod wedi cael llai o gyflog am eu bod wedi eu cymathu i’r strwythur graddio newydd a ddaeth i rym o 22 Ebrill 2022. Oherwydd y grwpiau oedran y mae’r newid mewn strwythur graddio yn effeithio arnynt fwyaf, bydd y ddarpariaeth hon yn darfod y flwyddyn nesaf ac felly bydd yn cael ei hepgor o Orchymyn 2025.

 

 

Pwynt Craffu Technegol 10:                   Nodir y sylwadau, ac rydym yn cydnabod, er bod erthygl 19(a) yn glir, hwyrach y gellid darllen erthygl 22(5) mewn gwahanol ffyrdd. Deallwn, fodd bynnag, fod y meini prawf yn glir o’r canllawiau cysylltiedig a ddarperir ar gyfer rhanddeiliaid a bod hon yn ddarpariaeth hirsefydlog sy’n mynd yn ôl i 2016. Rydym wedi cael gwybod y bydd y Panel yn ystyried dileu erthygl 22(5) ar gyfer Gorchymyn 2025.

 

 

Pwynt Craffu Technegol 11:                   Nodir y sylwadau, ac er ein bod yn cydnabod y gallai erthygl 25(1) yn y testun Cymraeg fod yn gliriach, bydd y canllawiau cysylltiedig a ddarperir ar gyfer rhanddeiliaid yn helpu i egluro’r ystyr, y bwriad a’r effaith a bydd y geiriad yn cael ei adolygu eto ar gyfer Gorchymyn 2025.

 

 

Pwynt Craffu Technegol 13:                   Nodwn eich sylwadau mewn perthynas ag erthyglau 26(2) a 43(2) a byddwn yn eu hystyried ar gyfer Gorchymyn 2025. O ran y defnydd o “y gweithiwr” a “gweithiwr amaethyddol” rydym wedi rhoi gwybod i’r Panel am eich sylwadau, a byddant yn cael eu hystyried ar gyfer Gorchymyn 2025. Nid ydym yn ystyried bod y rhain yn effeithio’n andwyol ar ystyr ac effeithiolrwydd y Gorchymyn a byddem yn nodi bod y geiriad yn adlewyrchu geiriad Gorchymyn 2023. Bydd y canllawiau cysylltiedig a ddarperir ar gyfer rhanddeiliaid hefyd yn helpu i egluro ystyr, bwriad ac effaith y geiriad.

 

 

Pwynt Craffu Technegol 18:                   O ran trydedd golofn y tabl, byddwn yn cysylltu â Chofrestrydd yr OSau i weld a ellir gwneud y newid drwy slip cywiro. O ran penawdau’r tabl yn Atodlen 4, rydym wedi rhoi gwybod i’r Panel am eich sylwadau, a byddant yn eu hystyried ar gyfer Gorchymyn 2025. Nid ydym yn ystyried bod y drafftio hwn yn ddiffygiol nac yn effeithio’n andwyol ar ystyr ac effeithiolrwydd y Gorchymyn a byddem yn nodi bod y geiriad yn adlewyrchu geiriad Gorchymyn 2023.

 

 

Pwynt Craffu ar Rinweddau 19:            Nodwn eich sylw a chyfeiriwn at gynnwys y llythyr dyddiedig 19 Mawrth 2024. Oherwydd y trefniadau unigryw yn ymwneud â drafftio’r Gorchymyn hwn, rydym yn cydnabod bod gostyngiad byr yn y confensiwn 21 o ddiwrnodau rhwng dyddiadau gwneud a dod i rym y Gorchymyn a gwnaed pob ymdrech i gadw’r gostyngiad hwn mor fyr â phosibl .